Cyflwyniad
Cyflawni dyfarniad Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr
Sut y gallaf gofrestru?
Pa gymorth sydd ar gael?
Beth yw’r gost?
Beth yw rôl Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA)
Cyflwyniad
Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) yn rheoli Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yng Nghymru. Mae’r safonau, yr asesu a’r achredu yr un fath i bob mudiad sy’n defnyddio Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr, ble bynnag y maent yn y DU. Rheolir y safon ychydig yn wahanol ym mhob gwlad.
I gael safon Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr drwy WCVA mae angen bod eich mudiad yng Nghymru gyda’i gyfeiriad cofrestredig a’i brif swyddfa yma hefyd.
Bydd dau opsiwn i mudiadau sydd â diddordeb mewn Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr ac sydd wedi’u lleoli yng Nghymru.
- Opsiwn 1: Mudiadau sy’n dymuno defnyddio Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr fel fframwaith a model ar gyfer gwella a datblygu eu harferion.
Bydd y sawl sy’n dewis Opsiwn 1 yn gallu llwytho’r safonau i lawr yn rhad ac am ddim, a’u defnyddio fel canllaw i arferion da. Gallant ddewis ar unrhyw adeg cael eu hasesu i ennill statws Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr drwy symud ymlaen i Opsiwn 2.
Gallech lwytho Safon Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr i lawr yma
- Opsiwn 2: Mudiadau sy’n dymuno cyflawni statws achrededig a chyflawni dyfarniad Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr. Mae gofyn i mudiadau gofrestru ar-lein, er mwyn gweld holl rannau perthnasol y wefan. Yna dilynwch y camau a amlinellir o dan ‘Cyflawni Dyfarniad Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr’
Cyflawni Dyfarniad Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr
I’r rheiny sydd eisiau cyflawni Dyfarniad Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr, mae’r broses yn cynnwys y deg cam canlynol:
Cam Un: Cofrestru fel mudiad Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr
Ar ôl cofrestru, bydd cynghorydd yn cysylltu â chi ac yn dweud wrthych sut i ddechrau gweithio tuag at safon Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr. Gallwch ddefnyddio’r geiriau ‘Yn gweithio tuag at safon Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr’ ar eich llenyddiaeth.
Cam Dau: Hunanasesu
Defnyddiwch y ffurflenni hunanasesu i asesu eich arferion o’u cymharu â deg dangosydd i weld sut y maent yn cymharu. (Gallwch lwytho hyn i lawr o’r rhan ‘mynediad cyfyngedig’ ar y wefan. Byddwch yn cael cyfrinair ar gyfer y rhan hon wrth gofrestru ar gyfer Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr).
Cam Tri: Datblygu
Nodwch y camau y mae angen i chi eu cymryd i fodloni’r safonau. Bydd y wefan yn rhoi’r adnoddau i chi a fydd yn gymorth i chi fynd i’r afael ag unrhyw ddiffygion er mwyn cyflawni’r safonau. Pe byddai angen cymorth ychwanegol arnoch, cysylltwch â’ch cynghorydd WCVA am gyngor am sut i symud ymlaen.
Cam Pedwar: Datblygu’r portffolio
Dechreuwch gasglu tystiolaeth, deunyddiau a dogfennau i lunio eich portffolio o enghreifftiau o arfer da i’w hasesu.
Cam Pump: Gwneud Cais am Asesiad
Pan fyddwch chi’n barod, bydd WCVA yn penodi aseswr. Gofynnir i chi gyflwyno eich hunanasesiad a 3 darn dethol o dystiolaeth. Bydd yr aseswr yn trafod y trefniadau asesu gyda chi, a fydd yn cynnwys cyfweliadau â phersonél allweddol, gan gynnwys staff, gwirfoddolwyr, ymddiriedolwyr a/neu aelodau pwyllgor.
Cam Chwech: Adroddiad Asesu
Ar ôl eich ymweliad asesu, byddwch yn cael adroddiad llafar gan yr aseswr yn dweud wrthych a ydych wedi cyrraedd y safon Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr neu beidio. Bydd adroddiad ysgrifenedig yn dilyn gan gynnwys argymhellion ar gyfer datblygu, os oes angen.
Cam Saith: Gwirio
Os bydd eich mudiad yn bodloni’r safon Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr, aiff yr argymhelliad wedyn at y Panel Sicrhau Ansawdd i’w wirio. Os na fydd eich mudiad yn bodloni’r safon Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr, bydd cyngor ar gael i’ch helpu i nodi camau pellach.
Cam Wyth: Corff dyfarnu’r DU
Mae’r Panel Sicrhau Ansawdd yn cadarnhau penderfyniad yr aseswr ac yn gwneud argymhelliad i Banel Dyfarnu Fforwm Gwirfoddoli’r DU.
Cam Naw: Ennill Dyfarniad
Byddwch yn ennill Dyfarniad Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr ac yn gallu defnyddio logo Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr ar eich papurau swyddogol a’ch cyhoeddiadau.
Cam Deg: Cynnal y safon
Anogir eich mudiad i ddatblygu rhaglen gwella a gwerthuso barhaus i sicrhau y caiff yr arfer da a ddatblygwyd yn ystod y broses Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr ei gynnal, yn barod ar gyfer ailasesu mewn tair blynedd.
Sut y gallaf gofrestru ar gyfer Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr?
1. Trafodwch Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr gyda phob aelod yn y mudiad, o ymddiriedolwyr/aelodau pwyllgor, staff a gwirfoddolwyr, i sicrhau bod pawb yn cefnogi’r penderfyniad i anelu at safon Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr.
2. Gwascwch y botwm ‘Register Interest’ yng nghornel top y sgrîn, ar y dde, i gofrestru’ch mudiad ar-lein.
3. Anfonir holiadur i’w cwblhau a dychwelyd i ni at iiv@wcva.org.uk.
4. Anfonir anfoneb ar gyfer y ffi gofrestru, ac ar ôl derbyn tâl, bydd cynghorydd Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn cysylltu â chi i drafod sut i fwrw ‘mlaen.
Pa gymorth sydd ar gael?
Mae llawer o fathau o gymorth ar gael i’ch helpu i gyflawni’r dyfarniad Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr; bydd rhai ohonynt yn rhad ac am ddim a bydd eraill yn costio.
- Efallai bod yr atebion rydych yn chwilio amdanynt yn rhan Cwestiynau Cyffredin y wefan. [hyperlink to FAQ section of the website]
- Gallwch hefyd chwilio yn yr adran Rheoli Gwirfoddolwyr ar wefan WCVA www.wcva.org.uk/volunteering sy’n cynnwys model polisïau, taflenni gwybodaeth a chyngor y gellir eu llwytho i lawr.
Ewch at Lyfrgell Arfer Da Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr, sydd yn cynnwys ystod o gyngor a gwybodaeth defnyddiol.
Mae’r canlynol ar gael drwy Cyhoeddiadau WCVA: [hyperlink to WCVA publications on the WCVA website]
- Y Canllaw Gwirfoddoli Mwy Diogel - £3 i aelodau WCVA, £5 i eraill;
- Y Rheolwr Gwirfoddolwyr Cyflawn – canllaw ar y we i bopeth y mae angen i chi ei wybod am reoli gwirfoddolwyr - £8 i aelodau WCVA, £12 i eraill.
- Recriwtio Gwirfoddolwyr –llawlyfr ymarfer da – synidau am recriwtio gwirfoddolwyr ac yn fframwaith ar gyfer datblygiad proffesiynol. £5 i aelodau WCVA; £7.50 i eraill.
Hyfforddiant
Cysylltwch eich Cyngor Gwirfoddol Sirol (CVC) ynglyn â chyrsiau ar rheoli gwirfoddolwyr.
Mae WCVA yn fodlon datblygu hyfforddiant mewnol arbennig i’ch helpu i gyrraedd safonau Buddsoddwyr mewn Gwirfoddolwyr. Cysylltwch â iiv@wcva.org.uk i drafod eich anghenion.
Cymorth arbenigol
Ar ôl i chi lenwi’r rhestr wirio hunanasesu, os ydych chi’n nodi’r angen am gymorth a chefnogaeth arbenigol un ac un, cysylltwch â’ch cynghorydd WCVA. Byddant yn medru’ch cynghori am sut i gael cymorth i gynhyrchu cynllun ddatblygu a llunio rhaglen i gwrdd â blaenoriaethau wedi’u nodi yn y cynllun.
Efallai y dymuna rhai mudiadau ddefnyddio gwasanaethau hyfforddwr neu fentor i gynorthwyo wrth ddatblygu eu harferion i gyrraedd safonau Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr. Gall y rhain gostio rhyw £250 - £300 y dydd.
Costau ‘pecyn cyflawn’: Efallai bydd mudiadau am ystyried ceisio am ‘pecyn cyflawn’ o gefnogaeth i’w cynorthwyo i gyrraedd y safon. Os oes diddordeb, cysylltwch â ni iiv@wcva.org.uk
Beth yw’r gost yng Nghymru?
Bydd cost cyflawni Buddsoddwyr mewn Gwirfoddolwyr yng Nghymru’n amrywio yn ôl maint a natur y mudiad.
Cost cofrestru:
- mudiad gwirfoddol £75
- mudiad statudol £300
Cost asesu:*
- mudiad gwirfoddol £300 y dydd
- mudiad statudol £500 y dydd
* Fel arfer, bydd asesu’n cymryd un diwrnod. Ar gyfer mudiadau mawr (mwy na 100 o wirfoddolwyr) neu’r rhai â strwythurau cymhleth neu wasgariad daearyddol eang, gall gymryd 2 ddiwrnod neu fwy.
Beth yw rôl Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru?
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) www.wcva.org.uk yw’r corff ymbarél ar gyfer y sector gwirfoddol yng Nghymru. Mae ganddo dros 1000 o aelodau, ac Uned un pwrpas i gefnogi a datblygu gwirfoddoli. Mae WCVA yn aelod o Fforwm Gwirfoddoli’r DU a’r Cyngor yw’r mudiad sy’n cynnal Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yng Nghymru.