Clwyd Special Riding Centre (CSRC) has been awarded the prestigious award Investors in Volunteers. Established in 1982 the centre has expanded significantly since then to become the only residential facility of it’s kind in the country and aims to be a ‘centre of excellence’ for Riding for the Disabled.
Located in Llanfynydd near Wrexham, CSRC is a unique local charity providing facilities to allow groups of riders with special needs to ride, vault and carriage drive horses, on a residential and non-residential basis. Volunteers are involved in many different aspects of the Centre: facilitating riding sessions, maintenance, administration, catering and fundraising with some performing several roles depending on their interests and need. A young volunteer said ‘I’ve grown a great deal since I started here, I’ve learnt new skills and improved my communication with other people’.
Volunteers are a vital part of the success of the centre, Lady Rosamund Gladstone, Chair of CSRC said ‘we have a wonderful band of dedicated volunteer helpers who make it possible for so many to ride, carriage drive and holiday with us, all with special needs. We are incredibly busy, the riding and carriage driving sessions have increased and now look forward to the forthcoming year with excitement under the enthusiastic guidance of our Manager Tess Chew’.
For more information please visit www.clwydspecialridingcentre.org.uk or e-mail info@clwydspecialrindigcentre.org.uk
Canolfan Marchogaeth Arbennig Clwyd
Mae Canolfan Marchogaeth Arbennig Clwyd wedi ennill y wobr bwysig Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr. Ers ei sefydlu ym 1982 mae’r ganolfan wedi ehangu’n sylweddol fel mai hi yw’r unig gyfleuster preswyl o’i fath yn y wlad, a’i huchelgais yw dod yn ‘ganolfan ragoriaeth’ ar gyfer Marchogaeth i’r Anabl.
Mae’r ganolfan yn Llanfynydd ger Wrecsam, ac mae’n elusen leol unigryw sy’n darparu cyfleusterau fel bod grwpiau o farchogion sydd ag anghenion arbennig yn gallu marchogaeth ceffylau, eu rhoi i neidio dros glwydi a gyrru car a cheffyl, ar sail breswyl ac amhreswyl. Mae gwirfoddolwyr yn cymryd rhan mewn llawer o wahanol agweddau ar waith y ganolfan: hwyluso sesiynau marchogaeth, cynnal a chadw, gweinyddu, arlwyo a chodi arian ac mae rhai’n cyflawni nifer o rolau yn ôl eu hanghenion a’u diddordebau. Meddai un gwirfoddolwr ifanc, ‘Rydw i wedi aeddfedu llawer ers imi ddechrau yma, rydw i wedi dysgu sgiliau newydd ac wedi dysgu i gyfathrebu’n well â phobl eraill’.
Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan hanfodol i sicrhau llwyddiant y ganolfan. Meddai’r Fonesig Rosamund Gladstone, Cadeirydd y ganolfan, ‘Mae gennym griw ardderchog o gynorthwywyr gwirfoddol ymroddedig sy’n ei gwneud yn bosibl i gynifer o bobl gael marchogaeth, gyrru car a cheffyl a threulio gwyliau gyda ni, bob un ag anghenion arbennig. Rydym yn rhyfeddol o brysur, mae’r sesiynau marchogaeth a gyrru car a cheffyl wedi cynyddu ac rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar yn awr at y flwyddyn nesaf dan arweiniad brwdfrydig ein Rheolwr Tess Chew’.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.clwydspecialridingcentre.org.uk neu anfonwch neges e-bost i info@clwydspecialrindigcentre.org.uk