(Welsh version is located below)
The three latest organisations in Wales to be awarded the Investing in Volunteers quality mark are all based in North Wales: Vale of Clwyd Mind Association, Rape and Sexual Abuse Support Centre (North Wales) and Conwy and Denbigh NHS Trust.
The Vale of Clwyd Mind Association involves around 30 volunteers in running a number of projects to support users of mental health services, their families and carers. The Sparks project, for example, encourages access to employment and training through its café, IT and administration, gardening and other services.
It also provides supported housing, and social opportunities for clients.
‘We recently achieved the Investor in People award, and are delighted to be awarded Investing in Volunteers as well’ said Geoff Lees, Director. The award was presented by Fiona Liddell, WCVA Volunteer Development Officer, during the AGM in Denbigh in November.
Conwy and Denbigh NHS Trust will be the first NHS Trust in Wales to receive the award. Volunteers, known as ‘Robins’ have become well recognised and much appreciated for their contribution on hospital wards. An award ceremony is planned for early in 2007.
The Rape and Sexual Support Centre offers a range of support services to anyone who has experienced a form of sexual violence, including a Helpline, counselling and raising community awareness. Three members of staff (two of them part time) together with around 30 volunteers provide a service throughout North Wales, with a base in locations including Bangor, Holyhead, Denbigh and Caernarfon. They will also receive their Investing in Volunteers Award early in 2007.
Currently more than thirty organisations in Wales are working towards Investing in Volunteers. It involves a process of both self-assessment and external assessment, comparing the organisation’s principles and practice with a UK standard which covers ten different areas of volunteer management. An adviser is assigned to work with each organisation from the point of registration up to the final assessment.
Mudiadau’r Gogledd yn ennill Dyfarniad Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr
Mae’r tri mudiad diweddaraf yng Nghymru i ennill y nod ansawdd Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr i gyd yn y Gogledd: Cymdeithas Mind Dyffryn Clwyd, Canolfan Gymorth ym maes Trais a Cham-drin Rhywiol (Gogledd Cymru) ac Ymddiriedolaeth GIG Conwy a Sir Ddinbych.
Mae Cymdeithas Mind Dyffryn Clwyd yn cynnwys oddeutu 30 o wirfoddolwyr sy’n cynnal nifer o brosiectau i gefnogi defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl, eu teuluoedd a’u gofalwyr. Mae prosiect Sparks, er enghraifft, yn agor y drws i gyflogaeth a hyfforddiant drwy gyfrwng ei gaffi, gwasanaethau TG a gweinyddu, garddio a gwasanaethau eraill.
Mae hefyd yn darparu tai â chefnogaeth a chyfleoedd cymdeithasol i gleientiaid.
‘Yn ddiweddar, llwyddwyd i ennill dyfarniad Buddsoddwyr mewn Pobl, ac rydym wrth ein bodd yn awr o gael y dyfarniad Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr hefyd’ meddai Geoff Lees, Cyfarwyddwr. Cyflwynwyd y wobr gan Fiona Liddell, Swyddog Datblygu Gwirfoddolwyr WCVA, yn ystod y CCB yn Ninbych ym mis Tachwedd.
Ymddiriedolaethau GIG Conwy a Dinbych fydd y ddwy Ymddiriedolaeth GIG gyntaf yng Nghymru i ennill y dyfarniad. Gelwir y gwirfoddolwyr yn ‘Robins’ ac mae pawb yn gwybod am eu cyfraniad ar wardiau'r ysbytai ac yn gwerthfawrogi eu cymorth. Bwriedir cynnal seremoni wobrwy yn fuan yn 2007.
Mae’r Ganolfan Gymorth ym maes Trais a Cham-drin Rhywiol yn cynnig ystod o wasanaethau cefnogi i unrhyw un sydd wedi dioddef trais rhywiol o unrhyw fath, gan gynnwys Llinell Gymorth, gwasanaeth cwnsela a chodi ymwybyddiaeth yn y gymuned. Bydd tri aelod o staff (dau ohonynt yn rhai rhan-amser) ynghyd ag oddeutu 30 o wirfoddolwyr yn cynnig gwasanaeth ledled y Gogledd, gyda chanolfannau ym Mangor, Caergybi, Dinbych a Chaernarfon. Byddant hefyd yn derbyn eu Gwobr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn fuan yn 2007.
Ar hyn o bryd, mae dros ddeg ar hugain o fudiadau yng Nghymru’n gweithio tuag at Fuddsoddi mewn Gwirfoddolwyr. Mae’n cynnwys proses hunanasesu ac asesu allanol, gan gymharu egwyddorion ac arferion y mudiad â safon y DU sy’n ymwneud â deg gwahanol faes o reoli gwirfoddolwyr. Neilltuir ymgynghorydd i weithio gyda phob mudiad o’r pwynt cofrestru hyd at yr asesiad terfynol.