|

The Bro Morgannwg NHS Trust

Ymddiriedolaeth GIG Bro Morgannwg


The Bro Morgannwg NHS Trust Volunteer Centre was established in February 2007 and officially opened in June 2007 by the Trust’s Chairman Mr Win Griffiths along with their first volunteer Mrs Jennifer John. The new vision for volunteering provides a platform for the co-ordination of existing volunteering activities along with the recruitment and training of new ward and unit based volunteers. The scheme is already supporting staff at Maesteg Community Hospital, the Emergency Unit and the Endoscopy Unit at the Princess of Wales Hospital, as well as the Centre itself. Mrs Glenda Phillips, Volunteer Coordinator and her assistant Mrs Wendy Grabham run the Centre. Glenda said ‘Investing in Volunteers has played a major role in the successful development of the Volunteer Scheme at Bro Morgannwg NHS Trust, with the indicators setting a strong foundation on which to build. Our volunteers range from age 17 to 80, each taking something different from their experience’.

Sefydlwyd Canolfan Wirfoddolwyr Ymddiriedolaeth GIG Bro Morgannwg ym mis Chwefror 2007 ac fe’i hagorwyd yn swyddogol ym mis Mehefin 2007 gan Gadeirydd yr Ymddiriedolaeth Mr Win Griffiths ynghyd â’r gwirfoddolwr cyntaf Mrs Jennifer John. Mae’r weledigaeth newydd ar gyfer gwirfoddoli’n rhoi llwyfan i gydlynu gweithgareddau gwirfoddoli sy’n digwydd eisoes ynghyd â recriwtio a hyfforddi gwirfoddolwyr ward ac uned newydd. Mae’r cynllun eisoes yn cefnogi staff yn Ysbyty Cymunedol Maesteg, yr Uned Argyfwng a’r Uned Endosgopi yn Ysbyty Tywysoges Cymru, yn ogystal ag yn y Ganolfan ei hun. Mae’r Ganolfan yn cael ei rhedeg gan y Cydlynydd Gwirfoddolwyr, Mrs Glenda Phillips ,gyda’i chynorthwyydd, Mrs Wendy Grabham. Meddai Glenda, ‘Mae Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad y Cynllun Gwirfoddoli yn Ymddiriedolaeth GIG Bro Morgannwg, gyda’r dangosyddion yn gosod sylfaen gref i adeiladu arni. Mae oed ein gwirfoddolwyr yn amrywio o 17 i 80 oed, gyda phob un yn elwa mewn ffordd wahanol o’u profiad.’