Bulliesout was founded in May 2006 by Linda James as a direct result of her experience of bullying and how it affected her son. The organisation is an anti bullying charity providing help, support and information to individuals, schools, youth and community settings affected by bullying through online support, awareness campaigns and supporting schools to set up peer mentoring schemes. School support includes training and continued support.
There are a number of schemes working in Neath Port Talbot, Barry (Vale of Glamorgan), Ebbw Vale, Torfaen and Caldicot and ‘hands of courage’ workshops have been held in North Wales.
The organisation recognises that volunteers contribute in many ways, that their contribution is unique, and that it can benefit users of services, staff, local communities and the volunteers themselves. Bulliesout values the contribution made by volunteers, and is committed to working in ways which are encouraging, supportive and which develop volunteering.
Bulliesout is a fast growing, extremely busy Charity and can only do what it does with the tireless support and dedication of the volunteers who work so hard to ensure the Charity's aims are met.
Further details can be found by visiting the website www.bulliesout.com or contacting Linda on 029 2056 8947; e-mail ljames@bulliesout.com
SNAP Cymru work directly with families and young people in the area of disability and special educational needs, providing a range of services to ensure that children and young people get the best they can from educational provision and be fully included. SNAP Cymru is the leading provider of Parent Partnership Services in Wales, giving thousands of families information, advice and support every year.
The organisation covers the whole of Wales having four regional offices with a team of full time staff and over 100 volunteers. SNAP Cymru relies on its volunteer base to deliver a high quality service with a variety of opportunities available from office work to telephone operator and Independent Parental Supporter.
Further details can be found by visiting the website www.snapcymru.org or contacting them on 029 20 388776; e-mail headoffice@snapcymru.org
The Kim Project provides innovative support through group-work activities that are creative, responsive and sensitive to the needs of women in Flintshire who experience common mental health concerns and severe and enduring mental illness. They provide a varied programme with built-in progressions, enabling clients to improve coping strategies and work towards mental health recovery.
A client commented ‘Everything in my life has improved, I’m a totally different person now – before I didn’t want to live, this has been my lifeline’.
Recently, the Kim Project has seen continued change and growth with increasing numbers of referrals and support for women both in the community and within the hospital setting.
The Kim Project works in partnership with Flintshire Community Mental Health Social and is committed to achieving high standards and ensuring they provide the best service possible to the women who access their services.
For further details please call 01352 755333 or e-mail the-kim-project@tiscali.co.uk
Enillwyr diweddaraf y Wobr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr fawreddog yw Bulliesout, Snap Cymru a Phrosiect Kim.
Sefydlwyd Bulliesout ym mis Mai 2006 gan Linda James, o ganlyniad uniongyrchol i’w phrofiad o fwlio a sut yr effeithiodd ar ei mab. Elusen gwrth-fwlio yw’r mudiad, sy’n darparu cymorth, cefnogaeth a gwybodaeth i unigolion, i ysgolion ac i leoliadau ieuenctid a chymunedol yr effeithir arnynt gan fwlio, drwy gynnig cymorth ar-lein, cynnal ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth a chefnogi ysgolion i sefydlu cynlluniau mentora cyfoedion.Mae’r gefnogaeth a roddir i ysgolion yn cynnwys hyfforddiant a chymorth parhaus.
Mae nifer o gynlluniau ar waith yng Nghastell-nedd Port Talbot, y Bari (Bro Morgannwg), Glyn Ebwy, Tor-faen a Caldicot ac mae gweithdai ‘dwylo dewr’ wedi cael eu cynnal yng Ngogledd Cymru.
Mae’r mudiad yn cydnabod bod gwirfoddolwyr yn cyfrannu mewn nifer o wahanol ffyrdd, bod eu cyfraniad yn unigryw, ac y gall eu cyfraniad fod o fudd i ddefnyddwyr gwasanaethau, i staff, i gymunedau lleol ac i’r gwirfoddolwyr eu hunain. Mae Bulliesout yn gwerthfawrogi’r cyfraniad a wneir gan wirfoddolwyr, ac mae wedi ymrwymo i weithio mewn ffyrdd sy’n annog, yn cefnogi ac yn datblygu gwirfoddoli.
Mae Bulliesout yn elusen brysur dros ben sy’n tyfu’n gyflym, a dim ond drwy ymroddiad a chefnogaeth ddiflino’r gwirfoddolwyr sy’n gweithio mor galed i sicrhau y caiff nodau’r Elusen eu cyflawni y mae ei gwaith yn bosibl.
Gellir gweld rhagor o fanylion drwy fynd i’r wefan www.bulliesout.com neu drwy gysylltu â Linda ar 029 2056 8947; e-bost ljames@bulliesout.com
Mae SNAP Cymru’n gweithio’n uniongyrchol gyda theuluoedd a phobl ifanc ym maes anabledd ac anghenion addysgol arbennig, gan ddarparu ystod o wasanaethau i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn manteisio cymaint â phosibl ar ddarpariaeth addysgol ac yn cael eu cynnwys yn llawn. SNAP Cymru yw’r prif ddarparwr Gwasanaethau Partneriaeth â Rhieni yng Nghymru, ac mae’n rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth i filoedd o deuluoedd bob blwyddyn.
Mae’r mudiad yn gwasanaethu Cymru gyfan, ac mae ganddo bedair swyddfa ranbarthol sydd â thîm o staff amser llawn a mwy na 100 o wirfoddolwyr. Mae SNAP Cymru yn dibynnu ar ei sylfaen o wirfoddolwyr i ddarparu gwasanaeth o safon uchel sy’n cynnwys amrywiaeth o gyfleoedd, o weithio yn y swyddfa i ateb y ffôn a gweithio fel Cynhalydd Annibynnol i Rieni.
Gellir gweld rhagor o fanylion drwy fynd i’r wefan www.snapcymru.org neu drwy gysylltu â nhw ar 029 20 388776; e-bost headoffice@snapcymru.org
Mae Prosiect KIM yn darparu cymorth arloesol drwy weithgareddau gwaith grŵp sy’n greadigol, yn ymatebol ac yn sensitif i anghenion menywod yn Sir y Fflint sydd â phryderon cyffredin ynghylch iechyd meddwl ac sy’n dioddef o salwch meddwl difrifol a pharhaus. Maent yn darparu rhaglen amrywiol sy’n cynnwys dilyniant, er mwyn galluogi’r cleientiaid i wella’u strategaethau ymdopi a gweithio tuag at wella’u hiechyd meddwl.
Dywedodd un cleient, ‘Mae popeth yn fy mywyd wedi gwella, rwy’n unigolyn cwbl wahanol erbyn hyn – doeddwn i ddim eisiau byw o’r blaen; mae hyn wedi rhoi gobaith i mi’.
Yn ddiweddar, mae Prosiect Kim wedi gweld newid a thwf parhaus gyda nifer gynyddol o atgyfeiriadau a chymorth i fenywod, yn y gymuned ac yn yr ysbyty.
Mae Prosiect Kim yn gweithio mewn partneriaeth gyda Gwasanaethau Cymdeithasol Iechyd Meddwl Cymunedol Sir y Fflint ac mae wedi ymrwymo i gyrraedd safonau uchel a sicrhau eu bod yn darparu’r gwasanaeth gorau posibl i’r menywod sy’n defnyddio eu gwasanaethau.
I gael rhagor o fanylion, ffoniwch 01352 755333 neu anfonwch neges e-bost at the-kim-project@tiscali.co.uk