The Vale of Clwyd Mind was established over 25 years ago around the time of the closure of the Denbighshire asylum. The first project was to establish a residential care home. Subsequent projects have included being instrumental in establishing 2 user led organisations - North Denbighshire Survivor Network and the Conwy and Denbighshire Advocacy Service - two £1,000,000 projects aimed at supporting people to engage with valued occupations and the development of a social enterprise, a rural outreach programme covering two counties eight local offices, a carers project, a housing project (21 units) and day services. They are the regional centres for The A.S.I.S.T (suicide awareness training) and Youth and Adult Mental Health First Aid, two Welsh Government supported projects, also running a small social enterprise - Chimera which runs a station cafe, outside catering and a domestic and commercial cleaning business.
The organisation is instrumental in developing the North Wales and North Powys recovery network and recovery workers forum, also providing central services and business support for another voluntary agency. They also offer training - employment and employee support, coping with life training (assertiveness, self esteem, depression, anxiety, anger management and stress management).
Vale of Clwyd Mind successfully achieved renewing the Investing in Volunteers Award originally awarded to them in November 2006. They currently have 19 general volunteers, 10 volunteer board members and 32 staff members. The volunteer roles include Mahoney’s drop-in volunteers; Cafe volunteers; Outreach/working with groups - in Rhyl, Denbigh, Llangollen; Corwen; Ruthin; Llanrwst and Penmaenmawr.
Geoff Lees, Director of Services at Vale of Clwyd Mind said ‘the process was friendly and professional and we all felt our views were valued by the Assessor. We were successful and importantly we were given useful advice on how to improve the volunteering experience further within our organisation’.
‘Our volunteers are split between our rural service and our coastal projects both teams each year celebrate the contributions volunteers give to Vale of Clwyd Mind. This year the coastal team went out for a celebratory dinner and the rural team spent the day with a workshop on mental health and volunteer practice - buffet lunch and each volunteer was given a voucher to be spent at a local store’.
‘We have trained volunteers up to level 3 NVQ in Community Volunteering and we hope to run another course early in the New Year’.
Mark Gahan, Assessor for the Investing in Volunteers Award said ‘volunteers were happy with the progress they had made whilst volunteering at Vale of Clwyd Mind, some had found employment and others have received significant personal benefits including the courage to volunteer with other organisations. The significance of this progress, taking into account individual circumstances and the support they had obviously received through volunteering at the organisation Mind was striking and memorable’. To find out more about the organisation, please call 01745 336787; email: This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. or visit www.valeofclwydmind.org.uk
Dathlu ein Gwirfoddolwyr ym Mind Dyffryn Clwyd
Sefydlwyd Mind Dyffryn Clwyd dros 25 mlynedd yn ôl tua’r adeg pan gaewyd ysbyty meddwl Dinbych. Y prosiect cyntaf oedd sefydlu cartref gofal preswyl. Mae ein prosiectau ers hynny wedi cynnwys cyfraniad allweddol tuag at sefydlu dau sefydliad a arweinir gan y defnyddwyr – Rhwydwaith Goroeswyr Gogledd Sir Ddinbych a Gwasanaeth Eiriolaeth Conwy a Sir Ddinbych - dau brosiect £1,000,000 sy’n gweithio i gynorthwyo pobl i gymryd rhan mewn galwedigaethau a werthfawrogir a datblygu menter gymdeithasol, rhaglen allgymorth wledig o fewn ffiniau dwy sir gydag wyth swyddfa leol, prosiect gofalwyr, prosiect tai (21 o unedau) a gwasanaethau dydd.Maent hefyd yn gweithredu fel y canolfannau rhanbarthol ar gyfer A.S.I.S.T (hyfforddant mewn ymwybyddiaeth o hunanladdiad) a Chymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Ieuenctid ac Oedolion, dau brosiect a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, ac mae hefyd yn rhedeg menter gymdeithasol fechan - Chimera sy’n rhedeg caffe gorsaf, arlwyo allanol a busnes glanhau ar gyfer cartrefi a busnesau.
Roedd y mudiad yn allweddol yn natblygiad rhwydwaith adferiad Gogledd Cymru a Gogledd Powys a’r fforwm gweithwyr adferiad, ac mae hefyd yn darparu gwasanaethau canolog a chymorth busnes i asiantaeth wirfoddol arall.Maent hefyd yn cynnig hyfforddiant – cyflogaeth a chymorth i gyflogeion, hyfforddiant ar ymdopi â bywyd (pendantrwydd, hunan barch, iselder, pryder, rheoli dicter a rheoli straen).
Llwyddodd Mind Dyffryn Clwyd i adnewyddu ei statws Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr a ddyfarnwyd iddynt gyntaf ym mis Tachwedd 2006. Erbyn hyn mae ganddynt 19 o wirfoddolwyr cyffredinol, 10 o aelodau gwirfoddol ar y bwrdd a 32 aelod o staff.Mae rolau’r gwirfoddolwyr yn cynnwys gwirfoddolwyr canolfan galw i mewn Mahoney’s; gwirfoddolwyr yn y Caffe; Allgyrraedd / gweithio â grwpiau - yn y Rhyl, Dinbych, Llangollen; Corwen; Ruthun; Llanrwst a Phenmaenmawr.
Meddai Geoff Lees, Cyfarwyddwr Gwasanaethau gyda Mind Dyffryn Clwyd: ‘Roedd y broses yn un gyfeillgar a phroffesiynol, ac roeddem yn teimlo fod yr Asesydd yn gwerthfawrogi ein sylwadau. Buom yn llwyddiannus, a’r hyn oedd yn bwysig hefyd oedd ein bod wedi cael cyngor defnyddiol ar sut i wella profiad y gwirfoddolwyr yn y mudiad.
‘Mae ein gwirfoddolwyr wedi’u rhannu rhwng ein gwasanaeth gwledig a’n prosiectau ar yr arfordir. Bob blwyddyn bydd y ddau dîm yn dathlu cyfraniadau gwirfoddolwyr at waith Mind Dyffryn Clwyd. Eleni, aeth tîm yr arfordir allan am ginio dathlu a threuliodd y tîm gwledig ddiwrnod mewn gweithdy ar iechyd meddwl a gwaith gwirfoddolwyr – cafwyd cinio bwffe a rhoddwyd tocyn anrheg i bob gwirfoddolwr i’w wario mewn siop leol.
‘Mae gennym wirfoddolwyr sydd wedi’u hyfforddi hyd at NVQ lefel 3 mewn Gwirfoddoli Cymunedol a gobeithiwn redeg cwrs arall yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd.’
Meddai Mark Gahan, Asesydd ar gyfer Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr:‘Roedd y gwirfoddolwyr yn hapus â’r cynnydd a wnaethpwyd ganddynt wrth wirfoddoli gyda Mind Dyffryn Clwyd; roedd rhai ohonynt wedi dod o hyd i waith ac roedd eraill wedi cael buddiannau personol pwysig gan gynnwys yr hyder i wirfoddoli â mudiadau eraill. Roedd arwyddocâd y cynnydd hwn, gan gadw mewn cof amgylchiadau’r unigolion a’r cymorth yr oeddent yn amlwg wedi’i gael wrth wirfoddoli gyda Mind ,yn drawiadol a chofiadwy’.
Os hoffech wybod mwy am y mudiad, ffoniwch 01745 336787; e-bostiwch: This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. neu ewch i