Published 13 July 2011
Swansea is celebrating achieving Investing in Volunteers for the second time and will continue its dedication towards volunteering services to BME women across Swansea.
The organisation is working to establish a network of black and minority ethnic women and women’s organisations in the Swansea Bay area. It aims to remove barriers and empower women to participate fully in mainstream Welsh communities. This it does by providing training, language support, advice and information and health and childcare support services. It is also active in providing cultural and diversity awareness training in the community.
Volunteers are involved in supporting tutors in conducting training courses and befriending people with mental health problems, helping with child care, administrative roles and finance jobs in the office.
Mewn would like to thank its entire staff and volunteers as without them they would not have achieved this tremendous success. For further details visit www.mewnswansea.org.uk
Mewn Abertawe
Mae Mewn Abertawe yn dathlu ennill gwobr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr am yr ail dro a bydd yn parhau â’i ymroddiad i gynnig gwasanaethau gwirfoddol i ferched o gefndiroedd Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig ledled Abertawe. Mae’r mudiad yn gweithio i sefydlu rhwydwaith o ferched o’r gymuned pobl ddu a lleiafrifoedd ethnig a mudiadau merched yn ardal Bae Abertawe. Ei nod yw chwalu rhwystrau a grymuso merched i gyfrannu’n llawn at gymunedau prif ffrwd Cymru. Gwna hyn drwy ddarparu hyfforddiant, cefnogaeth iaith, cyngor a gwybodaeth a gwasanaethau cefnogaeth gofal plant ac iechyd. Mae hefyd yn weithgar o ran darparu hyfforddiant i godi ymwybyddiaeth o ddiwylliant ac amrywiaeth yn y gymuned.
Mae Gwirfoddolwyr yn ymwneud â chefnogi tiwtoriaid i gynnal cyrsiau hyfforddi, bod yn gyfaill i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, helpu gyda gofal plant neu gyflawni gwaith gweinyddol a chyllid yn y swyddfa.
Hoffai Mewn ddiolch i’w holl staff a’i holl wirfoddolwyr – ni fyddai wedi gallu sicrhau llwyddiant mor ysgubol hebddynt. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.mewnswansea.org.uk