Planning charity invests in its volunteers
October 2012
Planning Aid Wales, a charity helping the public understand and engage with land use planning issues in Wales, has secured the prestigious Investing in Volunteers award. Planning Aid Wales is proud to be among the 57 organisations in Wales to receive it to date.
James Davies, the organisation’s Volunteer Manager, said ‘We are thrilled to achieve this standard. We will now put in place an annual development plan, activity programme and an enhanced mentoring scheme to make things even better.’
Planning Aid Wales needed to meet nine indicators that assessed how it involves, develops, supports and celebrates its volunteers. James Davies continued ‘The assessment was extremely rigorous – a testament not only to the high quality standards required by the programme, but also the professionalism of the WCVA team who deliver it.’
Many Planning Aid Wales volunteers are practising land use planners who help prepare guidance publications, deliver training and provide advice to communities in Wales. Volunteers from community development backgrounds are also welcome and help to build links with partners and hard-to-reach groups in Wales. The contribution volunteers make will be celebrated at a high-profile awards ceremony later in the year.
One volunteer commented: ‘I am not surprised that Planning Aid Wales has achieved this recognition. Since I started volunteering here, they have expressed sincere commitment to developing my skills. I wanted to volunteer to get some practical experience and Planning Aid Wales has more than met my expectations.’
For more information, visit www.planningaidwales.org.uk
Cymraeg
Elusen gynllunio’n buddsoddi yn ei gwirfoddolwyr
Mae Cymorth Cynllunio Cymru, elusen sy’n helpu’r cyhoedd i ddeall materion cynllunio defnydd tir yng Nghymru a chymryd rhan ynddynt, wedi sicrhau’r wobr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr nodedig. Mae Cymorth Cynllunio Cymru yn falch o fod ymysg y 57 o fudiadau yng Nghymru sydd wedi ei chael hyd yn hyn.
Meddai James Davies, Rheolwr Gwirfoddolwyr y mudiad, ‘Rydym ni wrth ein boddau i gyrraedd y safon hon. Rydym ni nawr am sefydlu cynllun datblygu blynyddol, rhaglen gweithgareddau a chynllun mentora uwch i wneud pethau’n well fyth.’
Roedd angen i Gymorth Cynllunio Cymru fodloni naw dangosydd sy’n asesu sut y maent yn cynnwys, yn datblygu, yn cefnogi ac yn dathlu eu gwirfoddolwyr. Aeth James Davies yn ei flaen ‘Roedd yr asesiad yn drwyadl iawn – sy’n profi bod y rhaglen yn mynnu safonau ansawdd uchel, a hefyd bod tîm WCVA sy’n cyflenwi’r rhaglen yn un proffesiynol iawn.’
Mae llawer o wirfoddolwyr Cymorth Cynllunio Cymru’n gweithio fel cynllunwyr defnydd tir gan helpu i baratoi cyhoeddiadau arweiniad, darparu hyfforddiant a rhoi cyngor i gymunedau Cymru. Mae croeso hefyd i wirfoddolwyr o gefndir datblygu cymunedol ac maent yn helpu i greu cysylltiadau â phartneriaid a grwpiau anodd eu cyrraedd yng Nghymru. Caiff cyfraniad gwirfoddolwyr ei ddathlu mewn seremoni wobrau fawreddog yn ddiweddarach eleni.
Dywedodd un gwirfoddolwr ‘Dydw i ddim yn synnu bod Cymorth Cynllunio Cymru wedi cael y gydnabyddiaeth hon. Ers i mi ddechrau gwirfoddoli yma, maen nhw wedi dangos ymroddiad gwirioneddol i ddatblygu fy sgiliau. Roeddwn i eisiau gwirfoddoli i gael rhywfaint o brofiad ymarferol, ac mae Cymorth Cynllunio Cymru wedi mwy na bodloni fy nisgwyliadau.’
I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.planningaidwales.org.uk