IIV logo
Sign in/up
Menu
  • Home
  • About IiV
  • In your country
  • News
    • Events
    • Multimedia
    • Blog
  • Achievers' Club
Investing in Volunteers for Employers IiVE
  • Get a quote
  • Download the standard
  • Renewals
  • Events
  • Multimedia
  • Blog

News

Safer Wales Ltd

Safer Wales Volunteer Service - Safer Wales works to help people feel safer and improve the life of our communities in Wales.

October 2012

Specifically, we offer support and services to women and men who experience domestic abuse and sexual violence; hate crime or harassment; adults and children who are at risk of sexual exploitation and street based sex working. We also work with young people in our Riverside Warehouse youth centre and in schools across Wales.  Our volunteer service is an integral part of service delivery.

Safer Wales is proud to have achieved the IIV award. The award demonstrates our commitment in providing quality volunteer placements within the organisation, demonstrating best practice and recognition of the excellent work carried out by volunteers.

Emma Flanagan, Safer Wales Volunteer Co-ordinator said: ‘As an organisation, we are aware of the dedication and value the volunteers bring to our organisation and are very grateful for the volunteers’ time, passion and skills. Volunteers have helped us to expand our current services and this award has helped us to continue with confidence and all volunteers will feel their contribution is valued.’’

Some of our most dedicated and passionate volunteers were interviewed for the IIV assessment and gave some of the heartfelt responses.

One volunteer stated: “I have been a volunteer outreach worker here for nearly seven years and I drive one of the outreach vans. It’s a really special position to be in because I get to meet some precious people and to help those who really do need help. I’m going to be here forever!”

Another volunteer stated ‘It was made really clear at induction what policies and procedures are in place. It’s been a brilliant experience volunteering here and all the staff have been great. I tell all my friends to come and volunteer here as well because it changed my life.”

For more information on volunteering with Safer Wales you can visit our website www.saferwales.com or telephone 02920461564.

Cymraeg
Gwasanaeth Gwirfoddolwyr Cymru Ddiogelach - Mae Cymru Ddiogelach yn gweithio i helpu pobl i deimlo’n fwy diogel a gwella bywyd ein cymunedau yng Nghymru. Yn benodol, rydym yn cynnig cymorth a gwasanaethau i fenywod a dynion sy’n profi cam-drin domestig a thrais rhywiol; troseddau casineb neu aflonyddu; oedolion a phlant sydd mewn perygl o gael eu hecsbloetio’n rhywiol ac o wneud gwaith rhyw ar strydoedd. Rydym hefyd yn gweithio gyda phobl ifanc yn ein canolfan ieuenctid Riverside Warehouse ac mewn ysgolion ledled Cymru. Mae ein gwasanaeth gwirfoddolwyr yn rhan annatod o’r gwasanaeth a gyflenwir gennym.

Mae Cymru Ddiogelach yn falch o fod wedi cael gwobr Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr. Mae’r wobr yn dangos ein hymrwymiad i ddarparu lleoliadau gwirfoddolwyr o safon yn y sefydliad, gan ddangos arferion gorau a chydnabod y gwaith rhagorol a wneir gan wirfoddolwyr.

Meddai Emma Flanagan, Cydlynydd Gwirfoddolwyr Cymru Ddiogelach: ‘Fel mudiad, rydym ni’n ymwybodol o’r ymroddiad a’r gwerth mae’r gwirfoddolwyr yn eu rhoi i’n mudiad ac rydym ni’n ddiolchgar iawn am amser, angerdd a sgiliau’r gwirfoddolwyr. Mae gwirfoddolwyr wedi ein helpu ni i ymestyn ein gwasanaethau presennol ac mae’r wobr hon wedi ein helpu ni i barhau’n hyderus a bydd pob gwirfoddolwr yn teimlo bod ei gyfraniad yn cael ei werthfawrogi.’

Cynhaliwyd cyfweliadau â rhai o’n gwirfoddolwyr mwyaf ymroddedig a brwdfrydig yn yr asesiad Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr a chafwyd ymateb calonnog ganddynt. Dywedodd un gwirfoddolwr: ‘Rydw i wedi bod yn weithiwr allgymorth gwirfoddol yma ers bron i saith mlynedd ac rydw i’n gyrru un o’r faniau allgymorth. Mae’n lle arbennig iawn i fod ynddo oherwydd rydw i’n cael cyfarfod â phobl wych a helpu pobl ag angen cymorth gwirioneddol. Bydda’i yma am byth!’

Dywedodd gwirfoddolwr arall ‘Roedd yn glir iawn yn yr hyfforddiant ymsefydlu pa bolisïau a gweithdrefnau sydd ar waith. Mae gwirfoddoli yma wedi bod yn brofiad gwych ac mae’r staff i gyd wedi bod yn ardderchog. Rydw i’n dweud wrth fy ffrindiau i gyd am ddod yma i wirfoddoli hefyd oherwydd mae wedi newid fy mywyd.’
I gael mwy o wybodaeth am wirfoddoli gyda Chymru Ddiogelach gallwch ymweld â’n gwefan www.saferwales.com neu ffonio 02920461564.

volunteer now logo ncvo logo volunteer scotland logo wcva logo
© 2018 NCVO
  • Terms & conditions
  • Sitemap
  • Cookies
  • Contact Us
Website by Clickingmad