First Museum in Wales to be awarded IIV..
January 2012
Wrexham County Borough Museum and Archives Service has recently become the first museum in Wales to have achieved the Investing in Volunteers Wales standard. Eleri Farley, Assistant Learning and Access Officer said ‘ We are all very proud of achieving the award, our volunteer programme had been up and running for less than a year when we began the self-assessment phase of the IiV programme which took around 5 months to complete in total. The process ran very smoothly and we were continually supported and kept updated from IiV staff. David Heald, our assessor was very professional and placed all volunteers and staff at ease, resulting in a very smooth two days.’
‘Obtaining the standard was extremely important to our organisation and shows current volunteers, prospective volunteers and other organisations that we take our volunteers seriously, that we seek to offer a friendly, structured, professional and safe programme and that we adhere to the highest standards of volunteer management.’
‘Our volunteer programme is based upon the 9 IiV indicators which act as a best practice guide for volunteer managers. The indicators are a very useful tool in effectively managing, encouraging, supporting and developing volunteers. They helped us update policies and procedures, create and establish new policies, identify specific volunteer roles, and placed the volunteer at the heart of our organisation by creating a more fulfilling volunteer experience.’
‘Our volunteer cohort have benefitted greatly from a more streamlined and structured approach to volunteering. They know what is required of them, what the roles entail, what to do if things go wrong etc. The volunteer programme seeks to develop the skills and potential of individuals, groups and communities and places the volunteer at the forefront of what we do. Staff are also much more confident in dealing with volunteers, and are keen to impress the value of volunteers within an organisation.
The mutual aim between volunteers and Wrexham County Borough Museum and Archives Service is to enhance and expand public knowledge and understanding about the heritage of our community, by providing opportunities that inspire and encourage our local community to actively engage in their heritage.
Trevor Britton, volunteer Gallery Enabler said ‘As a volunteer Gallery Enabler, welcoming and assisting visitors, I’ve felt valued by the museum staff from Day 1 and I’ve been impressed by the training and attention given to us volunteers in explaining what is required of us and the excellent information we are given to enhance our work and for the visitor experience. I was able to provide evidence of this when I was interviewed by a quality standards examiner. I’m really pleased that Wrexham Heritage Service has achieved its Investing in Wales Volunteers Standard as it recognises the hard work already put in by staff and it gives us all the aim to continually improve.’
We would like to thank all of our volunteers who have continually given up their free time to our organisation. Their time, effort and dedication is very much appreciated.
Cymraeg
Yr Amgueddfa gyntaf yng Nghymru i sicrhau statws IIV
Yn ddiweddar llwyddodd Amgueddfa a Gwasanaeth Archifau Bwrdeistref Sirol Wrecsam i gyflawni’r gamp o fod yr amgueddfa gyntaf yng Nghymru i gael safon Buddsoddwyr mewn Gwirfoddolwyr. Meddai Eleri Farley, y Swyddog Dysgu a Mynediad Cynorthwyol, ‘Rydym i gyd yn falch dros ben o sicrhau’r statws hwn. Dim ond ers blwyddyn oedd ein rhaglen gwirfoddolwyr wedi bod yn rhedeg pan ddechreuwyd ar gam hunan asesu’r rhaglen IiV, a chymerodd tua 5 mis i gwblhau hwnnw. Cwblhawyd y broses honno’n ddidrafferth iawn ac roeddem yn cael cefnogaeth barhaus ac yn cael ein diweddaru gan staff IiV. Roedd David Heald, ein hasesydd yn broffesiynol iawn ac roedd yn gwneud i’r holl wirfoddolwyr a staff deimlo’n gartrefol, ac arweiniodd hynny at ddeuddydd hwylus iawn.
‘Roedd sicrhau’r safon yn eithriadol o bwysig i’n sefydliad ac roedd yn dangos i’r gwirfoddolwyr presennol, darpar wirfoddolwyr a sefydliadau eraill ein bod yn cymryd ein gwirfoddolwyr o ddifrif, ein bod yn ymdrechu i gynnig rhaglen gyfeillgar, drefnus, broffesiynol a diogel a’n bod yn glynu wrth safonau uchel wrth reoli gwirfoddolwyr.’
‘Mae ein rhaglen gwirfoddolwyr yn seiliedig ar 9 dangosydd IiV sy’n gweithredu fel canllaw arferion gorau ar gyfer rheolwyr gwirfoddolwyr. Mae’r dangosyddion yn ddefnyddiol iawn i reoli, annog, cynorthwyo a datblygu gwirfoddolwyr yn effeithiol. Maent wedi ein helpu i ddiweddaru polisïau a gweithdrefnau, i greu a sefydlu polisïau newydd, i ganfod rolau penodol ar gyfer gwirfoddolwyr, a gosod y gwirfoddolwr wrth galon ein sefydliad drwy greu rolau mwy ystyrlon ar eu cyfer.’
‘Mae ein gwirfoddolwyr wedi elwa llawer ers i ni fabwysiadu dull symlach wedi’i strwythuro’n well o reoli gwirfoddolwyr. Maent yn gwybod yr hyn a ddisgwylir ganddynt, beth mae’r rôl yn ei olygu, beth i’w wneud os oes rhywbeth yn mynd o’i le ac ati. Mae’r rhaglen gwirfoddolwyr yn ceisio datblygu sgiliau a photensial unigolion, grwpiau a chymunedau ac mae’n rhoi lle blaenllaw i wirfoddolwyr yn ein gwaith. Mae staff hefyd yn llawer mwy hyderus hefyd wrth ddelio â gwirfoddolwyr, ac maent yn awyddus i bwysleisio gwerth gwirfoddolwyr i’r sefydliad.
Mae’r gwirfoddolwyr ac Amgueddfa a Gwasanaeth Archifau Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn rhannu’r un nod, sef gwella ac ehangu gwybodaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o dreftadaeth ein cymuned, drwy ddarparu cyfleoedd sy’n ysbrydoli ac yn annog ein cymuned i gymryd diddordeb byw yn eu treftadaeth.
Meddai Trevor Britton, Galluogwr Orielau gwirfoddol, ‘Fel Galluogwr Orielau gwirfoddol sy’n croesawu ac yn cynorthwyo ymwelwyr, rwyf wedi teimlo bod staff yr amgueddfa wedi fy ngwerthfawrogi o’r cychwyn cyntaf ac mae’r hyfforddiant a’r sylw a roddir i ni fel gwirfoddolwyr wedi creu argraff fawr arnom wrth iddynt egluro’r hyn y mae disgwyl i ni ei wneud a hefyd yr wybodaeth ragorol a roddir i ni i’n cynorthwyo yn ein gwaith ac i gyfoethogi profiad yr ymwelydd. Roeddwn yn gallu dangos tystiolaeth o hyn pan gefais fy nghyfweld gan yr arholwr safonau ansawdd. Rwyf yn wirioneddol falch bod Gwasanaeth Treftadaeth Wrecsam wedi sicrhau’r Safon Buddsoddwyr mewn Gwirfoddolwyr gan ei fod yn cydnabod y gwaith caled sydd wedi’i wneud eisoes gan staff ac mae’n rhoi hwb i bob un ohonom i ymdrechu i wella’n barhaus.
'Hoffem ddiolch i’n holl wirfoddolwyr sydd wedi rhoi cymaint o’u hamser rhydd i’r sefydliad. Rydym yn gwerthfawrogi eu hamser, eu hymdrechion a’u hymrwymiad'.