Wedi'i cyhoeddi 22 Medi 2014
Mae rhaglen genedlaethol sy’n annog y safonau uchaf wrth reoli gwirfoddolwyr ar fin dathlu 10 mlynedd o gynorthwyo elusennau a mudiadau eraill ledled Cymru i hybu eu henw da.
Mae Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr – safon ansawdd y Deyrnas Unedig ar gyfer arfer da gan grwpiau sy’n cynnwys gwirfoddolwyr – wedi’i chyflawni gan 61 o fudiadau ar hyd y wlad, gan gynnwys elusennau megis Bullies Out, Age Cymru Bae Abertawe a Headway Caerdydd.
Mae sicrhau’r safon yn cynnig nifer o fuddion amrywiol, gan gynnwys arddangos ymrwymiad ac arfer da’r mudiad, helpu i ddenu ac ysgogi gwirfoddolwyr a chyfoethogi eu profiad.
Ac wrth i’r gystadleuaeth am swyddi gynyddu, mae mwy o gyflogwyr yn ystyried gwirfoddoli’n rhan bwysig o CV ymgeisydd, gyda Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn dangos bod y profiadau gwirfoddoli wedi bod â chyrff sy’n cael eu rhedeg yn broffesiynol.
Mae’r 10fed penblwydd yn cyd-daro â phenblwydd y corff ymbarél Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) yn 80 ac yn cael ei nodi yng Nghymru gan gyfres o ddigwyddiadau a chynigion er mwyn annog mwy o fudiadau i fanteisio ar y safon. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Seminar Datblygu Gwirfoddoli yng Nghymru, a gynhelir yn y Rhyl a Chaerdydd ar 8 Hydref. Bydd y seminar yn edrych ar y polisi gwirfoddoli newydd i Gymru gan Lywodraeth Cymru a rôl Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr i gyflawni rhai o’i amcanion. I gael mwy o wybodaeth, anfonwch neges i This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..
- Fel rhan o ddathliadau penblwydd WCVA yn 80, bydd wyth o aelod-fudiadau sy’n cyflawni safon Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr neu’n ei hadnewyddu erbyn diwedd 2015 yn cael eu dewis i ennill aelodaeth WCVA am ddim am flwyddyn.
Mae safon Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn berchen i Fforwm Gwirfoddoli’r Deyrnas Unedig ac yn cael ei rheoli gan National Council for Voluntary Organisations (NCVO) yn Lloegr, Volunteer Now yng Ngogledd Iwerddon, Volunteer Scotland a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA).
Y mudiad cyntaf yng Nghymru i gyflawni Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr oedd NewLink Cymru yn 2005. Mae’r elusen yn hyrwyddo mynediad at asiantaethau camddefnyddio sylweddau lleol, yn helpu i feithrin gallu ac effeithiolrwydd gwasanaethau o’r fath ar hyd y wlad ac yn hyfforddi gwirfoddolwyr i gymryd rhan yn ei gwaith ac ennill cymwysterau.
Ychydig cyn i NewLink gwblhau’r safon, sefydlodd brosiect MILE ar gyfer cyn ddefnyddwyr y gwasanaeth sydd am symud o fod yn gleient i fod yn wirfoddolwr – y cyntaf o’i fath yng Nghymru. Menter fwy diweddar yw rhaglen CamauNewydd, sy’n rhoi cyfleoedd gwirfoddoli i gamddefnyddwyr sylweddau sy’n derbyn triniaeth.
‘Roedden ni'n llawn cyffro i fod y cyntaf yng Nghymru i gyflawni Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr,’ meddai’r Rheolwr Gweithrediadau Gwirfoddol, Daljit Kaur Morris. ‘Roedd yn dangos ein hymrwymiad i wirfoddolwyr ac roedd o gymorth wrth recriwtio. Rwy'n credu i'r wobr hybu ein henw da ymysg cyllidwyr hefyd.
‘Pan benodir staff newydd, maent yn gallu gweld y meincnod rydym wedi ymrwymo i weithio tuag ato, ac mae hyn yn ein helpu i gynnal safon gyson. Mae wedi dod yn rhan o'n ffordd ni o weithio.’
Mae NewLink wedi adnewyddu'r dyfarniad ddwywaith ers hynny. ‘Wrth fynd drwy'r broses adnewyddu bob tair blynedd, rydym yn adfywio ein hunain - ac yn anelu at fod y gorau,’ ychwanegodd Daljit. ‘Rydym yn hoffi bod yn batrwm i fudiadau eraill - ac mae gennym gylch mawr o ddylanwad.’
Daeth BulliesOut, elusen o Gaerdydd, y mudiad cyntaf a arweinir yn llwyr gan wirfoddolwyr i gyflawni safon Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn 2009, gan ei hadnewyddu yn 2013. ‘Mae’r safon wedi’n galluogi i fynd ati i adolygu ein rhaglen wirfoddoli yn drylwyr a dangos yn gyhoeddus ein hymrwymiad i wirfoddoli,’ meddai’r Prif Weithredwr, Linda James.
Mae BulliesOut wedi sefydlu nifer o arferion gwaith newydd o ganlyniad i weithio tuag at y safon, gan gynnwys hyrwyddo cyfleoedd yn ehangach i ddenu mwy o amrywiaeth o wirfoddolwyr, datblygu cyrsiau hyfforddi i’w helpu i fod yn fwy hyderus ac effeithiol wrth wirfoddoli, a chyflwyno ffyrdd newydd i wirfoddolwyr rannu eu barn a’u syniadau.
‘Rydym ar ben ein digon i gyflawni’r safon unwaith eto,’ ychwanegodd Linda. ‘Mae’n anrhydedd mawr i waith caled ein gwirfoddolwyr a’r mudiad ei hun.’
- I drafod beth fyddai Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn ei olygu i’ch mudiad chi, cysylltwch â Fiona Liddell, drwy ffonio 029 2043 1730 neu ebostio This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.; This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.; neu Ddesg Gymorth WCVA, 0800 2888 32.
- Dilynwch Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr ar Twitter drwy #IiVUK ac ewch i’r wefan: www.investinginvolunteers.org.uk
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Lynne Reynolds ar 029 2043 1718 neu JackieHuybs ar 07814 070239. Gwefan WCVA www.wcva.org.uk
Nodiadau i olygyddion:
Mae WCVA yn cefnogi ac yn cynrychioli’r trydydd sector yng Nghymru, gyda mwy na 3,000 o aelodau gan gynnwys amrywiaeth eang o fudiadau sy'n gweithio ar faterion megis tai, adfywio economaidd, gofal plant