Published 04 August 2015
Home-Start Monmouthshire are thrilled to receive the investors in volunteers award, Volunteers are at the very heart of Home-Start and this award helps to show how much we value and appreciate their time, support and dedication, without them our work just wouldn’t be possible. A HUGE thank you!!
Home-Start Monmouthshire support families with at least one child under the age of five, who are experiencing temporary or long term difficulties. The scheme recruits, trains and supports volunteers-who are usually parents themselves-to visit families in their own homes. Through our support we help to reduce social isolation; help families to develop their own social networks; prevent family breakdown; strengthen parent/child relationships; improve the parent’s and children’s physical and emotional wellbeing and develop parenting skills.
On hearing the fantastic news that we had successfully completed the award one of our volunteers replied with ‘Well Done Homestart ! As a volunteer---happy to be able to help.’ And one of our trustees commented that ‘I think it's the staff and volunteers who deserve the accolade, Well done’. We are all so thrilled.
Home Start Sir Fynwy yn cyflawni Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr
Mae Home Start Sir Fynwy yn cefnogi teuluoedd sydd ag o leiaf un plentyn dan bump ac sy’n cael trafferthion dros dro neu hirdymor. Mae’r cynllun yn recriwtio, yn hyfforddi ac yn cefnogi gwirfoddolwyr sydd fel arfer yn rhieni eu hunain i ymweld â theuluoedd yn eu cartrefi eu hunain. Drwy ein cymorth rydym yn helpu i leihau unigedd cymdeithasol; yn helpu teuluoedd i ddatblygu eu rhwydweithiau cymdeithasol eu hunain; yn atal chwalfeydd teuluol; yn cryfhau’r berthynas rhwng rhiant a phlentyn; yn gwella lles corfforol ac emosiynol rhieni a phlant ac yn datblygu sgiliau magu plant.
Mae staff a gwirfoddolwyr wrth eu boddau o fod wedi cyflawni dyfarniad Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr. Dywedodd Charlotte Cook, Cydlynydd y Prosiect Meddyliau Iach, Teuluoedd Iach ‘Mae gwirfoddolwyr wrth wraidd Home Start ac mae’r dyfarniad hwn yn helpu i ddangos gymaint rydym yn gwerthfawrogi eu hamser, eu cefnogaeth a’u hymroddiad, hebddyn nhw ni fyddai ein gwaith yn bosib o gwbl. Diolch ENFAWR iddyn nhw!!’
Wrth glywed y newyddion ardderchog ein bod wedi llwyddo i sicrhau’r dyfarniad dywedodd un o’r gwirfoddolwyr ‘Da Iawn Home Start! Fel gwirfoddolwr---rwy’n falch o allu helpu.’ A dywedodd un o’n hymddiriedolwyr ‘Rwy’n meddwl mai’r staff a’r gwirfoddolwyr sy’n haeddu’r clod, da iawn nhw. Rydym ni gyd ar ben ein digon’.
Am ragor o wybodaeth ewch i http://www.homestartmonmouthshire.org.uk/