IIV logo
Sign in/up
Menu
  • Home
  • About IiV
  • In your country
  • News
    • Events
    • Multimedia
    • Blog
  • Achievers' Club
Investing in Volunteers for Employers IiVE
  • Get a quote
  • Download the standard
  • Renewals
  • Events
  • Multimedia
  • Blog

News

The Wallich

The Wallich is a leading homelessness charity in Wales. We have been providing accommodation and support services for homeless people since 1978, starting with a 20-bed hostel in Cardiff, now supporting more than 9,000 a year across 19 Welsh local authorities.


We
specialise in providing services for people with multiple, complex needs; people who, because of their high support needs, are often excluded from other services and have difficulty in accessing accommodation.

The range of services The Wallich offers is as diverse as the client group we work with. We aim to ensure all people have access to support that is appropriate to their needs. Long-term solutions, rather than short-term fixes, are developed in partnership with the client.

At the
Wallich, we believe in a Wales where people stand together to provide hope, support and solutions to end homelessness and we simply could not achieve this vision without the support of our volunteers.

With volunteers donating their time, they will be helping us to prevent homelessness by getting people off the streets, keeping people off the streets and creating opportunities for people to rebuild their lives.

Volunteers play a vital role in supporting the delivery of our services, and we simply couldn’t reach as many people as we do without them. Achieving the Investing in Volunteers standard is important to us as it shows our commitment to ensuring that these local heroes, who give their time to help us deliver vital services, are valued and supported to undertake their voluntary duties safely and effectively.

As our organisation changes and develops in the future, volunteering will remain an essential part of the solutions we provide and we are committed to maintaining the highest standard of support for our volunteers that we possibly can. The advice we have received throughout the Investing in Volunteers assessment will enable us to continue to improve our volunteering programme, and develop the support available to our volunteers further. 

‘Volunteering, for me, was fantastic. I instantly felt welcomed by everyone and my efforts, no matter how small, were always thanked for. I volunteered for two and a half hours each week alongside my full-time job. It was flexible, and I had no pressure put on me about the hours I worked.’

– Abi, volunteer

‘I started volunteering with The Wallich. This has not only given me pride, but also gives me the opportunity to give something back after all the support I received’

– Ian, The Wallich client and volunteer

Website: www.thewallich.com

Twitter: @TheWallich

Facebook: The Wallich Wales

Instagram: @homelessinwales

LinkedIn: The Wallich 

YouTube: The Wallich

If you’d like to find out more about volunteering with the Wallich, visit www.thewallich.com/volunteer or email This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.

Mae The Wallich yn elusen ddigartrefedd flaenllaw yng Nghymru. Rydym wedi bod yn darparu gwasanaethau llety a chymorth i bobl ddigartref ers 1978, gan ddechrau gyda hostel ac ynddi 20 gwely yng Nghaerdydd. Rydym bellach yn cefnogi dros 9,000 y flwyddyn mewn 19 ardal awdurdod lleol yng Nghymru.

Rydym yn arbenigo mewn darparu gwasanaethau i bobl sydd ag anghenion lluosog, cymhleth; pobl sydd, oherwydd eu hanghenion cymorth uchel, yn aml yn cael eu cau allan o wasanaethau eraill ac sy’n ei chael yn anodd sicrhau llety.

Mae ystod y gwasanaethau y mae The
Wallich yn ei gynnig yr un mor amrywiol â’r cleientiaid yr ydym yn gweithio gyda nhw. Anelwn at sicrhau bod cymorth ar gael i bobl sy’n briodol i’w hanghenion. Caiff atebion hirdymor, yn hytrach na rhai tymor byr, eu datblygu ar y cyd â’r cleient.

Yn The Wallich, rydym yn credu mewn Cymru lle mae pobl yn cydsefyll i ddarparu gobaith, cymorth ac atebion i drechu digartrefedd ac ni fyddem yn gallu gwireddu’r weledigaeth hon heb gefnogaeth ein gwirfoddolwyr.

Wrth i wirfoddolwyr roi o’u hamser i ni, maent yn ein helpu i atal digartrefedd drwy ddod
â phobl oddi ar y stryd, cadw pobl oddi ar y stryd a chreu cyfleoedd i bobl ailadeiladu eu bywydau.

Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan hanfodol yn helpu i ddarparu ein gwasanaethau, ac ni fyddem yn gallu cyrraedd cynifer o bobl ag a wnawn hebddyn nhw. Mae cyflawni safon Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn bwysig i ni gan ei bod yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau bod yr arwyr lleol hyn, sy’n rhoi o’u hamser i’n helpu i ddarparu gwasanaethau hanfodol, yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi i gyflawni eu dyletswyddau gwirfoddol yn ddiogel ac yn effeithiol.

Wrth i’n mudiad newid a datblygu yn y dyfodol, bydd gwirfoddoli yn parhau’n rhan hanfodol o’r hyn a ddarparwn ac rydym wedi ymrwymo i gynnal y safon uchaf posib wrth gefnogi ein gwirfoddolwyr. Bydd y cyngor a gawsom drwy gydol asesiad Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr yn ein galluogi i barhau i wella ein rhaglen wirfoddoli, a datblygu’r cymorth sydd ar gael i’n gwirfoddolwyr ymhellach. 

‘Roedd gwirfoddoli, i fi, yn ardderchog. Cefais groeso cynnes gan bawb a chefais ddiolch am fy ymdrechion, ni waeth pa mor fach, bob tro. Gwirfoddolais am ddwy awr a hanner bob wythnos ochr yn ochr â’m swydd lawn amser. Roedd yn hyblyg, a doedd dim pwysau arna’i ynglŷn â’r oriau yr oeddwn yn eu gweithio.’

– Abi, gwirfoddolwr

‘Dechreuais wirfoddoli gyda The Wallich. Mae hyn nid yn unig wedi rhoi balchder i mi, ond hefyd y cyfle i roi rhywbeth yn ôl ar ôl yr holl gymorth a roddwyd i mi.’

– Ian, cleient a gwirfoddolwr yn The Wallich

Gwefan: www.thewallich.com

Twitter: @TheWallich

Facebook: The Wallich Wales

Instagram: @homelessinwales

LinkedIn: The Wallich 

YouTube: The Wallich

I gael gwybod mwy am wirfoddoli gyda The Wallich, ewch i www.thewallich.com/volunteer neu ebostio This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.

volunteer now logo ncvo logo volunteer scotland logo wcva logo
© 2021 NCVO
  • Terms & conditions
  • Privacy
  • Sitemap
  • Cookies
  • Contact Us
Website by Clickingmad